English | Cymraeg

Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig: Rheolau’r Gystadleuaeth

Yr Enillydd

i gynrychioli Cymru yng NGHYSTADLEUAETH BBC CANWR Y BYD CAERDYDD 2009. Bydd yn derbyn gwobr ariannol o £2000 a thlws wedi ei gomisiynu’n arbennig.

Eraill yn y Rownd Derfynol

Bydd pob un o’r cantorion eraill yn y rownd derfynol yn derbyn £750.

Darlledu

Disgwylir y bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu. Bydd yr awdurdod darlledu priodol a’r gystadleuaeth yn berchen ar yr holl hawliau yn y recordiad ledled y byd am byth ym mhob cyfrwng boed yn hysbys ar hyn o bryd neu a ddyfeusir yn y dyfodol heb dâl pellach i’r cystadleuwyr yn y rownd derfynol.

Cystadleuwyr

Mae’r gystadleuaeth yn agored i gantorion a anwyd neu a fagwyd yng Nghymru sydd wedi derbyn cyfran sylweddol o’i haddysg yng Nghymru neu wedi gweithio yma am bum mlynedd cyn Ionawr 25, 2008.

Bydd y trefnwyr yn ystyried cymwysterau pob cystadleuydd.

Gofnynir am fanylion ar y Ffurflen Gais.

Mae’n rhaid i gystadleuwyr fod yn 18 - 32 oed ar Mehefin 1, 2009

Bwriedir y gystadleuaeth ar gyfer cantorion sydd yn nyddiau cynnar eu gyrfa broffesiynol.

Gwrandawiadau a’r Rownd Derfynol

Lleoliadau a Dyddiadau

Disgwylir y bydd pedwar o gantorion yn cymryd rhan yn y rownd derfynol ac fe’u dewisir yn y gwrandawiadau a gynhelir yng Nhaerdydd ar Ddydd Sul 10 Chwefror 2008 ac yn Llundain ar Ddydd Sul 17 Chwefror 2008.

Cynhelir rownd derfynol y gystadleuaeth yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar Ddydd Llun 16 Mehefin 2008 am 7.30pm. Bydd ymarferion ar gyfer y rownd derfynol yng Nghaerdydd ar 15 Mehefin 2008.

Dyddiadau Ychwanegol

Gwahoddir enillydd y gystadleuaeth hon i roi cyngerdd yng Ngŵyl Ryngwladol Cerddorol Abergwaun a chynnigir cyngerdd i’r enillydd yn Cyfres Cyngherddau Awr Ginio Neuadd Dewi Sant yn ystod tymor 2008/9.

Bydd angen i’r cystadleuwyr fydd yn cymryd rhan yn BBC Canwr y Byd Caerdydd 2009 fod yng Nghaerdydd rhwng 3 a 15 Mehefin 2009 yn gynwysedig.

Rhaglen

Ar gyfer y gwrandawiadau disgwylir i bob cystadleuydd gynnig, gan ddefnyddio’r ffurflen gais, rhaglen o dair aria (opera ac/neu oratorio). Dewis y cystadleuydd fydd y gân gyntaf ac wedyn dewisir un o’r gweddill gan y rheithgor. Mae hefyd yn bosib cyflwyno cân neu Lieder sef cyfanswm o pedair eitem i'w pharatoi.

Ar gyfer y gystadleuaeth derfynol disgwylir i’r cystadleuwyr gyflwyno rhaglen rhwng 16 ac 18 munud o gerddoriaeth, gyda chyfeiliant piano/cerddorfa fel sydd ei angen yn ôl y rhaglen a ddewiswyd. Awgrymir y dylid dewis rhaglen sydd o fewn maint cerddorfa symffoni safonol. Bydd angen manylion o’r rhaglen a fwriedir ar gyfer y rownd derfynol erbyn 1 Ebrill 2006. NI dderbynnir unrhyw newidiadau wedi’r dyddiad hwn.

Cyfeiliant

Ar gyfer y gwrandawiadau disgwylir i bob cystadleuydd ddarparu cyfeilydd ar ei gost ei hun.

Ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth darperir cyfeiliant gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad David Parry.

Disgwylir y bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu. Bydd yr awdurdod darlledu priodol a’r gystadleuaeth yn berchen ar holl hawliau’r cyfeilydd gwadd yn y recordiad ledled y byd am byth ym mhob cyfrwng boed yn hysbys ar hyn o bryd neu a ddyfeusir yn y dyfodol heb dâl pellach.

Beirniaid

Beirniaid y rownd derfynol yn cynwys
Rebecca Evans
Elaine Padmore
Simon Keenlyside
Philip Langridge
Julian Smith (cadeirydd)

Costau

Ni thelir costau i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiadau.

Bydd pob un o’r cantorion yn y rownd derfynol yn derbyn gwobr o £750 (caiff yr enillydd £2000) ond NI thelir unrhyw gostau.

Trefnwyr y Gystadleuaeth

Trefnir y gystadleuaeth gan
Cerdd Byw Cymru!
Annedd Wen
36 The Cathedral Green
Llandaf
CAERDYDD CF5 2EB

Dyddiad Cau

Dylai pob cais i gystadlu yn y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig ddod i law erbyn 25 Ionawr 2008.

Ffurflenni Cais

Dylid eu dychwelyd at

Anna Williams
Gweinyddwraig
Fern Villa
Llandysilio
CLUNDERWEN
Sir Benfro SA66 7TJ

Ffôn/Ffacs: 01437 563834
Ebost: anna.williams@ukonline.co.uk

Cydnabyddir pob ffurflen a dderbynnir gan y trefnwyr.

© Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig 2008
Website by Fresh Look Media