English | Cymraeg

Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig: Croeso

Bydd enillydd y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig yn cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2011. Bydd hefyd yn derbyn gwobr o £2000 a thlws. Fe fydd y cantorion eraill yn y rownd derfynol yn derbyn gwobr o £750.

Bwriedir y gystadleuaeth ar gyfer cantorion ar ddechrau eu gyrfa broffesiynol ac mae'n agored i rhai sydd yn 18 - 32 oed ar Mehefin 1af 2011 a anwyd a fagwyd yng Nghymrru, ac sydd wedi derbyn rhan helaeth o'u haddysg yng Nghymru.

Trefnir gan
Live Music Now Wales

Mewn cydweithrediad â
BBC Cymru Wales

Gyda chefnogaeth
Cyngor Celfyddydau Cymru

Trefnir y gystadleuaeth gan Cerdd Byw Cymru! mewn cydweithrediad â BBC Cymru a gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd y rheithgor ar gyfer y rownd derfynol yn cynnwys y cantorion rhyngwladol Rebecca Evans, Robert Tear and Bryn Terfel. Yn ymuno â nhw fydd Elaine Padmore, Pennaeth yr Opera, Y Cwmni Opera Brenhinol Covent Garden a Julian Smith Cynghorwr Cerdd BBC Canwr y Byd Caerdydd ac arweinydd annibynnol.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Grant Llewellyn fydd yn cyfeilio yn y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd Nos Lun 28 Mehefin, 2010.

Cerdd Byw Cymru! fydd hyrwyddwyr y gystadleuaeth. Sefydlwyd Cerdd Byw Nawr! gan Yehudi Menuhin ac mae'r elusen yn rhoi'r cyfle i filoedd o bobl, na fyddai fel rheol yn gallu mynychu cyngherddau, i glywed perfformiadau gan gerddorion ieuainc proffesiynol.

Tocynnau

Bydd tocynnau ar werth ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Cystadleuwyr y rownd derfynol 2008

Laura Parfitt (soprano)
John Pierce (tenor)
Natalya Romaniw (soprano)
Claire Watkins (soprano)

Cyswllt

Cyswllt:  Anna Williams
Ffôn:  01437 563 834
Ffacs:  01437 563 526
Ebost:  anna.williams@ukonline.co.uk
anna.williams47@btconnect.com

© Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig 2010
Website by Fresh Look Media