English | Cymraeg

Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig: Croeso

Dydd Llun Mehefin 16, 2008

Trefnir y gystadleuaeth gan Cerdd Byw Cymru! mewn cydweithrediad â BBC Cymru a gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Bryn Terfel yw’r noddwr.

Tocynnau

Archebwch eich tocynnau ar y we! Cliciwch yma.

Cystadleuwyr y rownd derfynol 2008

Laura Parfitt (soprano)
John Pierce (tenor)
Natalya Romaniw (soprano)
Claire Watkins (soprano)

Bydd yr enillydd yn cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009. Bydd hefyd yn derbyn gwobr o £2000 a thlws. Fe fydd y cantorion eraill yn y rownd derfynol yn derbyn gwobr o £750.

Bwriedir y gystadleuaeth ar gyfer cantorion ar ddechrau eu gyrfa broffesiynol ac mae’n agored i’r rhai sydd yn 18 - 32 oed ar Mehefin 1af 2009 a anwyd neu a fagwyd yng Nghymru, ac sydd wedi derbyn rhan helaeth o’u haddysg yng Nghymru.

Rhaid i’r holl geisiadau fod mewn llaw erbyn 25 Ionawr 2008.

Bydd y rheithgor yn cynnwys y cantorion rhyngwladol Rebecca Evans, Simon Keenlyside a Philip Langridge; Elaine Padmore, Pennaeth yr Opera, Y Cwmni Opera Brenhinol Covent Garden a Julian Smith Cynghorwr Cerdd BBC Canwr y Byd Caerdydd, arweinydd annibynnol a chyn Bennaeth Cerdd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

Trefnir gan
Live Music Now Wales

Mewn cydweithrediad â
BBC Cymru Wales

Gyda chefnogaeth
Cyngor Celfyddydau Cymru

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Nicholas Braithwaite fydd yn cyfeilio yn y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd, Nos Lun Mehefin 16, 2008.

Cerdd Byw Cymru! fydd hyrwyddwyr y gystadleuaeth. Sefydlwyd Cerdd Byw Nawr! gan Yehudi Menuhin ac mae’r elusen yn rhoi’r cyfle i filoedd o bobl, na fyddai fel rheol yn gallu mynychu cyngherddau, i glwyed perfformiadau gan gerddorion ieuainc proffesiynol.

Cyswllt

Cyswllt:  Anna Williams
Ffôn/Ffacs:  01437 563834
Ebost:  anna.williams@ukonline.co.uk

Gwybodaeth ar gyfer y wasg

Mike Smith
Mediasmith
13 Ty Draw Road
Penylan
CAERDYDD CF23 5HA

Ffôn: 07795 325161
Ebost: mike@mediasmith.barrier.co.uk

© Cystadleuaeth i Gantorion Cymreig 2008
Website by Fresh Look Media